Text Box: Carl Sargeant AC
 Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

4 Hydref 2017

Annwyl Carl

Diogelwch Tân mewn Tyrau o Fflatiau yng Nghymru

Diolch i chi ac i Lesley am roi tystiolaeth lafar ar 27 Medi. Yn dilyn y sesiwn, hoffem ofyn am wybodaeth bellach ac eglurder ar nifer o faterion. Er mwyn bod yn gyflawn, rwyf hefyd wedi cynnwys y meysydd lle rydych chi neu eich swyddogion wedi ymrwymo i ddarparu rhagor o wybodaeth.

Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Tân

Rydym yn croesawu'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Tân, a nodir y bydd y Grŵp yn rhoi cyngor cychwynnol i chi yr wythnos hon. Rydym yn croesawu eich ymrwymiad i wneud rhyw fath o ddatganiad i'r Aelodau, naill ai'n ysgrifenedig neu mewn datganiad llafar, yn fuan iawn. Fodd bynnag, yng ngoleuni pwysigrwydd y materion hyn, byddwn yn ddiolchgar am unrhyw awgrymiadau ynghylch sut y gallwn gyflawni ein rôl o graffu o ran gwaith y grŵp, ei gyngor a'i argymhellion ynghyd â'ch ymateb. Byddai cyhoeddi'r argymhellion a'r ymateb, er enghraifft, yn helpu i graffu'n effeithiol ac yn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd ynghylch penderfyniadau a wneir.

Buasem hefyd yn gwerthfawrogi pe gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ynghylch gwaith y Grŵp, ac unrhyw waith pellach y byddwch yn comisiynu'r Grŵp i'w wneud.

Y sector preifat

Er ein bod yn cydnabod gwaith yr holl bartneriaid i ymgysylltu â'r sector preifat, rydym yn pryderu bod perchenogion / asiantau rheoli 31 o dyrau o fflatiau, yr ydych wedi methu â chysylltu â nhw. Rydym hefyd yn pryderu nad oes nifer derfynol ar faint o dyrau o fflatiau sydd mewn perchnogaeth breifat ledled Cymru. Rydym am sicrhau bod trigolion yn y sector preifat yn cael yr un lefel o wybodaeth a chymorth â'r rheini mewn tai cymdeithasol. 

A allech chi ddarparu rhagor o wybodaeth am sut y byddwch yn sicrhau bod awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn nodi pob twr o fflatiau preswyl mewn perchnogaeth breifat? A ydych yn hyderus bod awdurdodau lleol yn defnyddio'r holl bwerau sydd ar gael iddynt i sicrhau bod blociau o fflatiau sydd mewn perchnogaeth breifat yn bodloni eu rhwymedigaethau ac yn ymgysylltu â thrigolion?  

Mae wedi dod i'n sylw bod pryderon y gallai fod yn anodd i bobl sicrhau morgeisi ar eiddo mewn blociau o fflatiau, hyd yn oed os nad oes cladin ar y blociau. A yw hwn yn fater y mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol ohono? Os felly, beth yw eich barn ar fynd i'r afael â'r mater hwn?

Yn ystod y sesiwn dystiolaeth lafar, fe wnaethom archwilio'r mater o ariannu gwaith adferol yn y sector tai cymdeithasol, a dywedasoch mai mater i landlordiaid oedd hwn. Rydym yn ymwybodol bod pryderon yn y sector preifat hefyd y gallai'r gost o gael gwared â chladin ddisgyn ar ysgwyddau trigolion, ac efallai na allent ariannu gwaith o'r fath. Pa gefnogaeth, os o gwbl, fyddai ar gael i drigolion y gofynnir iddynt ariannu'r costau llawn eu hunain?

Pan gawsom dystiolaeth gyntaf ym mis Gorffennaf, clywsom am bryderon nad oedd gan denantiaid yn y sector preifat ddigon o gefnogaeth i ymgysylltu â'u landlordiaid a'u herio pan fyddai angen. Byddem yn croesawu rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i gefnogi tenantiaid yn y sector rhentu preifat ar y mater hwn. 

Systemau Chwistrellu

Archwiliwyd dau fater mewn perthynas â chwistrellu; gweithredu Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 a gosod systemau chwistrellu ar ôl adeiladu mewn blociau o fflatiau.

O ran y mater cyntaf, cytunodd swyddogion i roi mwy o fanylion am nifer yr adeiladau newydd nad oes angen gosod chwistrellau ynddynt oherwydd bod datblygwyr wedi cyflwyno eu cynlluniau cyn i'r gwelliannau a wnaeth y Mesur i'r Rheoliadau Adeiladu ddod i rym.

Roedd ymrwymiad hefyd i roi eglurder ynghylch yr amser oedd gan ddatblygwyr i ddechrau adeiladu, ar ôl cyflwyno cynlluniau, cyn y byddent yn ddarostyngedig i'r gofyniad i osod chwistrellau

O ran y mater ehangach o osod systemau chwistrellu ar ôl adeiladu; mae hwn yn fater y gallwn ni fel pwyllgor ddychwelyd ato yn fwy manwl maes o law. Wrth ystyried hyn, byddai'n ddefnyddiol cael syniad o'ch ymateb i argymhellion cychwynnol eich Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Tân, ac unrhyw waith pellach rydych yn ei roi iddo.

O ran y costau i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig wrth wneud y gwaith diogelwch tân angenrheidiol yn dilyn trasiedi Twr Grenfell, a ydych wedi cael unrhyw drafodaethau â Llywodraeth y DU ynghylch a fydd yn darparu cyllid newydd ar gyfer gwaith o'r fath yn Lloegr, gyda chanlyniadau Barnett i Gymru?

Canllaw sy'n cyd-fynd â'r Gorchymyn Diogelwch Tân

Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, fe wnaethoch ymrwymo i ddarparu rhagor o fanylion o ran yr amserlen ar gyfer yr adolygiad a chyhoeddi'r canllawiau diwygiedig 'Fire safety in purpose built blocks of flats' sy'n cyd-fynd â'r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddiol (Diogelwch Tân) 2005. Roedd hyn yn cyfeirio at dystiolaeth a gawsom gan Gyngor Caerdydd ym mis Gorffennaf 2017:

“Now, as far as I’m aware, the Welsh Government commissioned a Welsh version of this, and I understand that is with the Welsh Government to rubberstamp and seal at the moment. I think it was written by a fire officer, Richard Davies, and it was circulated for consultation with local authorities. So, I understand there’s going to be a Welsh version of this….” Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 13 Gorffennaf 2016, Cofnod y Trafodion [606]

Rôl y Gwasanaethau Tân ac Achub yn y trefniadau cynllunio a Rheoliadau Adeiladu

Yn ystod cyfarfod y Pwyllgor, bu cryn drafodaeth ynglŷn ag ymgynghori ar rôl y Gwasanaethau Tân ac Achub o ran diogelwch tân mewn datblygiadau arfaethedig, yng nghyd-destun caniatâd cynllunio a chaniatâd Rheoliadau Adeiladu.  Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wrthym fod ganddo 'gylch gorchwyl cyfyngedig' o ran yr hyn y gellir ymgynghori arno, sef y ffordd o ddianc a mynediad ar gyfer gwasanaethau tân a chyflenwadau dŵr. Fodd bynnag, hoffem eglurder ynghylch yr union rôl fel y nodir yn y ddeddfwriaeth ar gyfer y Gwasanaethau Tân ac Achub i roi cyngor ar ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau preswyl cyn eu hadeiladu o ran y trefniadau cynllunio a Rheoliadau Adeiladu.

Rwy'n anfon copi o'r llythyr hwn at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, ynghyd â'n pwyllgorau cyfatebol yn San Steffan a Senedd yr Alban, sef y Pwyllgor Cymunedau a Llywodraeth Leol a'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Chymunedau (yn y drefn honno).

Yn gywir

John Griffiths AC
Cadeirydd

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu'n Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.